Skip to main content

Ein buddiannau

Rydyn ni wedi adeiladu lle gwych i weithio lle bydd gennych chi bopeth sydd ei angen arnoch i fod ar eich gorau.

Fresh Start Coffee Shop at Newport site with comfortable seating, tables and foliage in the foreground.

Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), mae ein holl gydweithwyr yn cyfrif. Dyma rai o’r buddiannau y gallwch eu mwynhau pan fyddwch yn gweithio i SYG.

“Mae’r cydbwysedd bywyd a gwaith yn fudd go iawn. Rwy’n fam, mae gen i blentyn ifanc, a gallaf weithio o gwmpas hynny.”

Jenny – Peiriannydd Seilwaith Cwmwl

Eich gwaith chi eich ffordd chi

Er mwyn eich helpu i greu cydbwysedd iach rhwng eich bywyd gwaith a chartref, rydym yn cynnig:

  • amrywiaeth o opsiynau gweithio hyblyg, gan gynnwys rhannu swydd ac oriau yn ystod y tymor.
  • oriau hyblyg rhwng 5am a 10pm, felly gallwch gytuno ar y patrwm gweithio sydd orau i chi ac i ni*
  • y cyfle i dreulio rhywfaint o’ch amser yn gweithio gartref, yn ogystal ag yn un o’n swyddfeydd. Byddwch yn treulio o leiaf 40% o’ch amser yn un o’n swyddfeydd a all gael ei addasu dros amser i ddiwallu anghenion busnes.
  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol, sy’n codi i 30 diwrnod ar ôl gweithio gyda ni am bum mlynedd, a naw diwrnod ychwanegol o wyliau cyhoeddus a gwyliau braint
  • chwe mis o absenoldeb mamolaeth, absenoldeb mabwysiadu neu absenoldeb rhiant a rennir â chyflog llawn, gyda thair wythnos o absenoldeb â chyflog llawn i bartneriaid ac absenoldeb â chyflog ar gyfer unrhyw apwyntiadau
  • amrywiaeth o absenoldeb arbennig â chyflog, gan gynnwys absenoldeb anabledd, absenoldeb ar gyfer gwirfoddoli ac absenoldeb i ofalwyr

*Nid yw oriau hyblyg yn gymwys i Uwch-weision Sifil

“Mae gan SYG gynllun pensiwn ardderchog, a fydd yn fy ngalluogi i ymddeol pan fyddaf yn dymuno gwneud hynny a chael bywyd hamddenol a di-straen.”

Hafiza – Caffael Doniau

Eich pensiwn

Eich pensiwn yw un o fuddiannau pwysicaf ymuno â’r Gwasanaeth Sifil.

Mae pensiwn y Gwasanaeth Sifil gystal â’r rhan fwyaf o opsiynau pensiwn, neu’n well na nhw. Mae’n cynnig buddiannau ardderchog i chi, eich teulu a’ch anwyliaid. Ewch i wefan pensiynau’r Gwasanaeth Sifil i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun.

Ewch i wefan pensiynau’r Gwasanaeth Sifil i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun.

“Rwy’n rhedwr brwd ac yn nofio tipyn hefyd. Mae’r gostyngiadau ar weithgareddau a’r arbedion rwyf wedi’u cael ar gyfarpar wedi bod yn anhygoel.”

Jack – Uwch-swyddog Ymchwil

Eich ffordd o fyw

Gallwch gael budd o amrywiaeth o ostyngiadau yn SYG, gan gynnwys bargeinion a chynigion mewn rhai archfarchnadoedd, manwerthwyr stryd fawr, bwytai, campfeydd, lleoliadau teithio a mwy.

Drwy glwb chwaraeon a hamdden y Gwasanaeth Sifil, gallwch gael cynigion arbennig a gostyngiadau ar chwaraeon a gweithgareddau hamdden. Mewn partneriaeth â Halfords, Tredz a siopau beiciau annibynnol, mae ein cynllun Beicio i’r Gwaith yn golygu y gallwch arbed hyd at 42% ar feiciau ac ategolion.

“Mae SYG yn cymryd cynhwysiant ac amrywiaeth o ddifrif. Mae’r Rhaglenni Amrywiaeth i Arweinyddiaeth wedi fy helpu i go iawn.”

Keesia – Peiriannydd Data

Eich llesiant

Rydym yn cydnabod y gall gwaith gael effaith gadarnhaol ar eich iechyd a’ch llesiant. Dyna pam ein bod yn cynnig y canlynol i chi:

  • gwasanaeth cymorth cyfrinachol 24/7 i weithwyr, sy’n rhoi cymorth emosiynol i chi a’ch teulu
  • mynediad at ein cynghreiriaid iechyd meddwl a chael cymorth ganddynt
  • amrywiaeth o addasiadau yn y gweithle, o gadeiriau sy’n rhoi mwy o gefnogaeth a desgiau sefyll i raglenni darllen sgrin neu ddehonglwyr
  • mynediad at grwpiau rhwydweithiau amrywiaeth, sy’n helpu pobl i drafod a hyrwyddo cydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth

“Mae’r cynllun cydnabod a gwobrwyo yn ffordd wych o ddweud diolch i gydweithwyr sy’n mynd yr ail filltir.”

Nilo – Hyfforddwr Technegol

Eich gwobrwyo am eich cyflawniadau

Mae cydnabod a gwobrwyo gwaith caled yn bwysig i ni.

Rydym yn dathlu llwyddiant ac ymdrech ein pobl yng Ngwobrau Rhagoriaeth SYG a Gwobrau’r Gwasanaeth Sifil.

Hefyd, byddwch yn gallu enwebu cydweithwyr eraill drwy ein cynllun cydnabyddiaeth, gyda thaliadau gwobrwyo untro.

“Mae fy merch yn mynd i’r feithrinfa ar y safle, sy’n ddefnyddiol iawn ar gyfer gofal plant. Ac mae’n golygu y gallwn gymudo gyda’n gilydd, sy’n braf.”

Patrick – Pennaeth Newyddiaduraeth Data

Eich amgylchedd gwaith

Rydym wedi creu gweithle gwych, modern a chreadigol sy’n cefnogi trefniadau gweithio hyblyg.

O fannau i gymryd egwyl i fannau cydweithio ar gyfer cyfarfodydd a bythau tawel i ganolbwyntio, bydd rhywle i ddiwallu eich anghenion ar gael bob amser.

Yn ein swyddfeydd, gallwn gynnig:

  • siopau coffi a bwytai
  • campfeydd
  • cyfleusterau meithrinfa ar y safle yng Nghasnewydd a chynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau
  • cawodydd ac ystafelloedd newid
  • lleoedd parcio ar y safle
  • mannau gwefru cerbydau trydan
  • cyfleusterau beiciau

“Rwy’n teimlo bod pobl yn ymddiried ynof i wneud fy rôl heb ddweud wrtha i sut mae ei gwneud, ac mae digon o gyfleoedd i ddatblygu.”

Megan – Pennaeth Cynllunio a Rheoli Portffolio

Datblygu eich gyrfa

Mae ymuno â SYG yn gam cyntaf mewn gyrfa a all fynd â chi i sawl cyfeiriad.

Rydym am wneud yn siŵr eich bod yn datblygu mewn ffordd sydd o fudd i bawb. Dyna pam ein bod yn canolbwyntio ar gynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu sy’n addas i chi ac i ni, gan gynnwys:

  • datblygiad parhaus yn eich swydd
  • cyrsiau a chymwysterau proffesiynol
  • e-ddysgu ar-lein
  • llwybrau arweinyddiaeth i gefnogi arweinwyr y dyfodol
  • cyrsiau llesiant, cynhwysiant a gwydnwch
  • cyfleoedd i symud rhwng adrannau ac o fewn y Gwasanaeth Sifil

Yn hoffi’r hyn rydych chi’n ei weld?

Os ydych am i’ch cyfraniad wneud gwahaniaeth go iawn, dewch i ymuno â ni.