Skip to main content

Sut i wneud cais

Os hoffech chi wneud cais am rôl yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG), dyma esboniad o’r gofynion. 

Young woman smiles at collegue, in the foreground is a laptop sits open.

Gwneud cais am rôl yn y SYG

Mae’r holl ffurflenni cais ar gyfer rolau yn y SYG ar wefan swyddi’r Gwasanaeth Sifil . Pan fyddwch yn gwneud cais am rôl, bydd yn gyfle i chi ddweud wrthym am eich hanes o ran gwaith, eich sgiliau, eich profiad a’ch gallu. Byddwn am weld sut mae’r wybodaeth yn eich CV a’ch datganiad personol yn cyd-fynd â’n hysbyseb. 

Gallwn hefyd gynnwys profion i’n helpu ni i ddewis y bobl orau i gael cyfweliad. Gallwch ddysgu mwy am brofion ar-lein y Gwasanaeth Sifil ar wefan Gov.uk. 

Addasiadau rhesymol i’r broses gwneud cais 

Fel rhan o’n proses gwneud cais, byddwn yn gofyn i chi roi gwybod i ni os bydd angen i ni wneud unrhyw addasiadau rhesymol ar eich cyfer. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi gael estyniad ar y dyddiad cau os ydych yn ofalwr neu os oes gennych amhariad gwybyddol. Gallwch gysylltu â’r tîm recriwtio yn ons.resourcing@ons.gov.uk a byddwn yn gwneud ein gorau i fodloni unrhyw geisiadau rhesymol a gawn. 

Cynllun Hyderus o ran Anabledd

Rydym yn gyflogwr sy’n hyderus o ran anabledd ac yn annog ceisiadau drwy’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd, lle bo’n berthnasol.

Bydd hyn yn caniatáu i ni eich cefnogi yn y ffordd orau drwy’r broses ymgeisio ac asesu.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cynllun ar wefan gov.uk

“Rwy’n hoffi gwybod bod popeth rwy’n ei wneud yn cynhyrchu rhifau a fydd yn helpu pobl.”

Keesia – Peiriannydd Data

Ysgrifennu datganiad personol 

Datganiad personol yw’r rhan o’r cais lle byddwch yn dweud wrthym am y sgiliau a’r profiad sydd gennych. Dylai’r adran hon gyfateb i’r rhan meini prawf hanfodol yn yr hysbyseb. 

Pan fyddwch yn ysgrifennu datganiad personol, dylech wneud y canlynol: 

  • cadw at y cyfrif geiriau ond peidiwch â bod yn rhy gryno, gan fod angen i chi ddangos i ni pam mai chi yw’r person cywir ar gyfer y swydd 
  • cymryd y pwyntiau o’r meini prawf hanfodol a thrin pob un ohonynt fel cwestiwn y bydd eich datganiad personol yn ei ateb 
  • darllen yr hyn sy’n ofynnol sawl gwaith, er mwyn sicrhau eich bod yn ei ddeall yn iawn
  • cynnwys yn eich atebion beth oedd ei angen, beth wnaethoch chi a sut wnaethoch chi hynny, beth ddigwyddodd a beth oedd y canlyniad 
  • ysgrifennu drafft cyntaf all-lein, fel y gallwch wirio eich sillafu a’ch gramadeg 
  • gofyn i rywun gadarnhau bod yr hyn rydych wedi’i ysgrifennu’n glir ac yn ateb y cwestiynau 
  • darllen drwyddo unwaith eto cyn ei lanlwytho a’i gyflwyno 

Dylai eich datganiad personol roi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom i benderfynu a allwch gynnig yr hyn sydd ei angen ar gyfer y rôl. Yna, byddwn yn eich gwahodd i gael cyfweliad. 

Rydym yn argymell eich bod yn ystyried defnyddio’r dull STAR wrth gwblhau eich cais, gan y bydd yn eich helpu i strwythuro’ch enghreifftiau i’r meini prawf hanfodol.

Beth yw Proffiliau Llwyddiant? 

Gallai hysbyseb ar gyfer rôl yn y SYG sôn am Broffiliau Llwyddiant. 

System yw’r fframwaith Proffiliau Llwyddiant a ddatblygwyd gan Wasanaeth Sifil y DU i asesu ymgeiswyr ar gyfer rolau yn seiliedig ar eu profiad, eu hymddygiad, eu galluoedd, eu cryfderau a’u sgiliau technegol. 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Broffiliau Llwyddiant ar wefan Gov.uk. 

Ydych chi’n hoffi’r hyn rydych chi’n ei weld?

Os ydych am i’ch cyfraniad wneud gwahaniaeth go iawn, dewch i ymuno â ni.