Skip to main content

Ein proses gwneud cais

Canllaw cam wrth gam i’r hyn i’w ddisgwyl wrth wneud cais am rôl gyda’r SYG.

A young woman sitting in a modern wingback armchair in a living room, she's about to apply for a job on her laptop and is smiling calmly. In the foreground there is a white orchid, in the background a modern white desk lamp.

Os hoffech wneud cais am rôl yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rydym ni’n gweithio’n galed i’w wneud mor hawdd â phosibl. Yn enwedig os nad ydych erioed wedi gwneud cais am rôl yn y Gwasanaeth Sifil o’r blaen.

Dyma ein harweiniad i’r broses gwneud cais, o gwblhau’r ffurflen gais i dderbyn cynnig a pharatoi ar gyfer eich diwrnod cyntaf yn SYG.

  • Cwblhau eich ffurflen gais

    Mae’r ceisiadau am rolau yn SYG ar wefan swyddi’r Gwasanaeth Sifil (‘Civil Service Jobs’).

    Yn y ffurflen gais, byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth a fydd yn ein helpu i ystyried pa mor dda rydych chi’n bodloni proffil y rôl.

    Gallai hyn gynnwys datganiad personol, atebion i gwestiynau technegol neu wybodaeth am eich hanes addysg a chyflogaeth.

    Byddwn hefyd yn gofyn i chi roi enghreifftiau o’ch sgiliau a’ch profiad sy’n bodloni’r adran meini prawf hanfodol yn y disgrifiad swydd.

  • Two women sit opposite each other in a glass walled office, one with her face to the camera the other faces away. They review the civil service success profiles and appear engaged in discussion.

    Dewis y bobl y byddwn ni’n cyfweld â nhw

    Pan fydd y dyddiad cau wedi mynd heibio ar wefan swyddi’r Gwasanaeth Sifil, byddwn yn dechrau penderfynu pwy rydym am gyfweld â nhw. Sifftio yw’r enw ar y broses hon.

    Yn dibynnu ar y rôl, mae’n bosibl hefyd y byddwn yn defnyddio prawf neu fath arall o asesiad i’n helpu i ddewis. Os felly, byddwn bob amser yn crybwyll y prawf neu’r asesiad yn y disgrifiad swydd.

    Bydd panel o gydweithwyr yn SYG yn edrych ar fersiwn o’ch ffurflen gais heb eich gwybodaeth bersonol.

    Bydd aelodau’r panel yn cymharu’r wybodaeth yn eich ffurflen gais â’r meini prawf hanfodol yn y disgrifiad swydd ac yn penderfynu pwy rydym am gyfweld â nhw.

  • A view over the shoulder of a person who is engaged in a Teams video call on a laptop at an office desk. A young woman is presenting in full screen and is smiling with three other people on the call.

    Y cyfweliad

    Bydd y cwestiynau yn y cyfweliad yn canolbwyntio ar y wybodaeth roeddem wedi’i chynnwys ym mhroffil y rôl. Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau am eich profiadau eich hun yn y gorffennol ac yn rhoi enghreifftiau o sefyllfaoedd i chi er mwyn gweld sut y byddech yn ymdopi â nhw.

    Mae’n bosibl hefyd y bydd angen i chi baratoi a rhoi cyflwyniad byr fel rhan o’r cyfweliad.

  • Cynnig rôl yn SYG i rywun

    Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn cysylltu â chi drwy eich cyfrif ‘Civil Service Jobs’ ac yn eich ffonio i drafod y rôl.

    Bydd eich cynnig yn seiliedig ar y gofynion a nodir yn yr hysbyseb swydd.

    Weithiau, pan fydd gennym fwy o bobl yr hoffem gynnig y rôl iddynt na’r swyddi sydd ar gael i’w llenwi, mae’n bosibl y byddwn yn eich rhoi ar restr wrth gefn. Mae hyn yn golygu, os bydd gennym rôl debyg yn y dyfodol, gallwn ei chynnig i chi heb i chi orfod gwneud cais a chael cyfweliad eto.

  • Paratoi ar gyfer eich diwrnod cyntaf yn SYG

    Ar ôl i chi dderbyn cynnig, bydd ein tîm cynefino yn eich tywys drwy’r broses. Gan weithio gyda chi, bydd y tîm yn casglu gwybodaeth sy’n eich galluogi i ddechrau cyn gynted â phosibl.

    Weithiau gall hyn gymryd ychydig fisoedd, gan fod angen i ni drefnu gwiriadau diogelwch a chyfarpar. Mae’n bosibl hefyd y bydd angen i chi gwblhau cyfnod rhybudd gyda’ch cyflogwr presennol.

    Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i bethau fynd rhagddynt, a byddwch yn gallu cysylltu â rhywun os bydd angen unrhyw help arnoch bob amser.

    Nawr, rydych chi’n barod i ddechrau gyrfa gyffrous yn SYG sydd wir yn cyfrif.