Skip to main content

Rolau digidol a data

Rydym yn byw mewn byd lle mae technoleg ddigidol yn bwysicach nag erioed. 

Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG), rydym am ei gwneud mor rhwydd â phosibl i bobl ryngweithio â’n data a’n dadansoddiadau. 

Er mwyn ein helpu i wneud hyn, rydym yn cyflogi’r bobl orau i greu, datblygu a chefnogi ein datrysiadau digidol arloesol. 

Rolau Digidol a Data y Llywodraeth yn y SYG 

O ddadansoddwyr data a datblygwyr meddalwedd i beirianwyr profi a phenseiri rhwydweithiau, mae ein timau yn sicrhau bod y SYG yn parhau i wella bywydau drwy ddata. 

Gallech fod yn creu’r arolygon sy’n casglu ac yn prosesu data neu’n helpu i’w dadansoddi a’u cyhoeddi, fel y gallwn ddeall beth maent yn ei ddweud wrthym. 

Gallech fod yn rhoi cymorth yn un o’n bariau technoleg, gan sicrhau bod gan bawb y cyfarpar a’r feddalwedd gywir i wneud eu gwaith yn dda. 

Gallwch ddysgu mwy am ein gwaith ym mlog Digidol, Data a Thechnoleg y SYG

“Mae’r SYG yn cynnig cyfleoedd gwych i ddatblygu gyrfaoedd, ac mae’r dechnoleg rydym yn ei defnyddio yn well na’r hyn roeddwn wedi’i ddisgwyl. Mae’r amgylchedd gwaith mor gefnogol a dynamig.” 

Rachel – Uwch-reolwr Cyflawni Ystwyth

Dysgu a datblygu ym maes digidol a data 

Yn y SYG, gallwch neilltuo amser i gefnogi eich dysgu a’ch datblygiad eich hun. 

Chi sydd i benderfynu sut i ddefnyddio’r amser. Gallech gwblhau cymhwyster neu gwrs hyfforddiant, dysgu sgìl newydd neu wella sgìl sydd gennych eisoes. 

Gallwch hefyd ymuno â’n Cymunedau Ymarfer, lle mae pobl mewn rolau tebyg yn rhannu’r datblygiadau arloesol, y wybodaeth a’r cyfleoedd dysgu diweddaraf. 

“Un peth a wnaeth sefyll allan i mi oedd ymrwymiad y SYG i uwchsgilio ei gweithwyr. Gallwch gael cymorth a hyfforddiant ar unwaith.”

Felix – Peiriannydd Meddalwedd 

Rolau Digidol a Data y Llywodraeth yn y Gwasanaeth Sifil 

Mae arbenigwyr Digidol a Data y Llywodraeth yn y Gwasanaeth Sifil yn gwneud gwahaniaeth i’r miliynau o bobl sy’n defnyddio gwasanaethau’r llywodraeth bob dydd. 

Mae ein rolau yn cael eu rhannu’n chwe grŵp, sef:  

  • rolau data 
  • rolau gweithrediadau TG 
  • rolau cynnyrch a chyflawni 
  • rolau profi sicrwydd ansawdd                                                
  • rolau datblygu technegol 
  • rolau dylunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn 

“Rydym yn defnyddio’r dechnoleg a’r technegau diweddaraf i brosesu data, gan gynnwys dysgu peirianyddol a’r cwmwl ym mhob ffordd bosibl.” 

Chris – Pennaeth Seilwaith a Saernïaeth y Cwmwl 

Yn hoffi’r hyn rydych chi’n ei weld? 

Os ydych am i’ch cyfraniad wneud gwahaniaeth go iawn, dewch i ymuno â ni.