Skip to main content

Felix

Peiriannydd meddalwedd.

Felix smiling with arms crossed. He wears a white short sleeved shirt with black trousers.

Daeth Felix i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) pan oedd yn astudio ar gyfer ei radd cyfrifiadureg. Ar ôl cael profiad mor gadarnhaol, newidiodd ei radd, ac mae bellach yn gweithio’n rhan-amser i SYG ac yn astudio yn y brifysgol.

Des i i SYG am flwyddyn mewn diwydiant fel rhan o’m gradd cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Portsmouth. Mi wnes i fwynhau cymaint, penderfynais newid fy ngradd i beirianneg meddalwedd. Nawr, dair blynedd yn ddiweddarach, rwy’n gweithio yn SYG yn rhan-amser fel peiriannydd meddalwedd ochr yn ochr â’m hastudiaethau yn y brifysgol.

Mae’r oriau gwaith hyblyg wedi bod yn gyfleus iawn, gan fy ngalluogi i gydbwyso fy ngwaith yn unol ag aseiniadau, darlithoedd a bywyd cymdeithasol yn y brifysgol.

Cefais fy synnu, er i mi ddechrau ar gontract cyfnod penodol, fy mod yn gallu ychwanegu gwerth go iawn at y tîm yn syth bron. Roeddwn i’n rhan o’r gwaith o ddatblygu system i olrhain cyfraddau cwblhau Cyfrifiad 2021, a oedd yn gyflawniad hanesyddol.

Un peth a wnaeth sefyll allan i mi oedd ymrwymiad SYG i uwchsgilio ei gweithwyr. Ni waeth ers faint o amser rydych chi wedi bod yn gweithio yno, gallwch fanteisio ar gymorth a hyfforddiant yn syth.

Rwyf wedi bod yn frwd dros dechnoleg erioed a’r ffordd y gellir ei defnyddio i ddatrys problemau. Er enghraifft, pan oeddwn i yn y chweched dosbarth, datblygais raglen i ddigideiddio’r system gofrestru oherwydd fy mod yn gweld y broses flaenorol yn rhwystredig. Rwy’n hoffi deall problem yn llawn a dod o hyd i ateb iddi, yn enwedig pan na fydd rhywun wedi gofyn y cwestiwn o’r blaen.

Rwy’n mwynhau hyblygrwydd trefniadau gweithio hybrid y sefydliad a’r cymorth sydd ar gael i ddatblygu fy sgiliau. Mae wedi bod yn wych cyfrannu at brosiectau pwysig a datblygu fel peiriannydd meddalwedd

Ydych chi’n hoffi’r hyn rydych chi’n ei weld?

Os ydych am i’ch cyfraniad wneud gwahaniaeth go iawn, dewch i ymuno â ni.