Skip to main content

Rolau dadansoddol

Mae dadansoddi wrth wraidd popeth a wnawn yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG). 

Mae ein hystadegau yn y cyfryngau bob diwrnod bron ac mae pobl yn eu defnyddio i wneud penderfyniadau pwysig am wasanaethau sy’n effeithio ar bob un ohonom. Er mwyn gwneud hyn mae angen i ni ganfod y bobl orau i ddadansoddi ein data a rhoi’r dechnoleg a’r technegau diweddaraf iddynt wneud hynny. 

Fel dadansoddwr yn y SYG, bydd grwpiau a rhwydweithiau dadansoddol ar gael i chi, ynghyd â chyfleoedd i ddysgu, datblygu a hyfforddi. 

Mae ein rolau dadansoddol yn cynnwys: 

  • dadansoddwyr economaidd 
  • ymchwilwyr gweithredol 
  • ymchwilwyr cymdeithasol 
  • ystadegwyr 
  • daearyddwyr 

Dadansoddwyr economaidd yn y SYG 

Yn y SYG, mae ein heconomyddion yn gweithio ar amrywiaeth o feysydd pwnc sy’n cael effaith wirioneddol ar bolisïau’r llywodraeth, ar wasanaethau cyhoeddus ac ar fywydau pob dydd pobl. 

Mae ein dadansoddwyr economaidd yn cefnogi gwaith pwysig, gan gynnwys: 

  • amcangyfrifon Cynnyrch Domestig Gros (GDP)
  • mynegeion chwyddiant a phrisiau
  • buddsoddiadau, pensiynau ac ymddiriedolaethau 
  • cynhyrchiant gwladol

Gall eu harbenigedd a’u dealltwriaeth gwmpasu popeth o facro a micro-economig i fodelu econometreg a gwyddor data.

“Rwy’n hoffi natur rhannol academaidd, rhannol datrys problemau fy rôl. Mae’r problemau diddorol a gaf yn ysgogi gwaith ymchwil mwy academaidd ei natur, ond mae’r broses weithredu ymarferol a’r dyhead i helpu fy nghydweithwyr yn sicrhau bod ffocws i’m gwaith a’i fod yn seiliedig yn y byd go iawn.” 

Ben – Ystadegydd

Ymchwilwyr gweithredol yn y SYG 

Mae ymchwil weithredol yn broffesiwn dadansoddol sydd ar ei gynnydd yn y SYG. Mae ymchwilwyr gweithredol yn sicrhau y gall ein hystadegau helpu i lywio penderfyniadau gwell ar bynciau sy’n effeithio ar bob un ohonom. 

Fel ymchwilydd gweithredol, byddwch yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau dadansoddol i wneud pethau fel:  

  • dadansoddi ystadegol manwl 
  • efelychu a modelu mathemategol 
  • hwyluso 
  • strwythuro problemau 

Gallwch hefyd ein helpu i fynd i’r afael â heriau newydd yn yr amgylchedd newidiol o gynhyrchu ystadegau swyddogol, gan gynnwys defnyddio data gweinyddol a Data Mawr. 

Ymchwilwyr cymdeithasol yn y SYG 

Fel ymchwilydd cymdeithasol yn y SYG byddwch yn helpu i sicrhau bod gan sefydliadau’r data sydd eu hangen arnynt i wneud penderfyniadau pwysig. 

Gallech fod yn cynllunio ein harolygon a’n holiaduron neu’n rhoi gwybodaeth arbenigol am ymddygiadau’r bobl sy’n eu cwblhau. Mae ein hymchwilwyr cymdeithasol yn ein helpu ni i ddeall popeth o ystadegau cymdeithasol ac economaidd i ffigurau’r boblogaeth a data am anghydraddoldebau iechyd. 

Ble bynnag rydych yn gweithio yn y SYG, byddwch yn defnyddio eich sgiliau ymchwil gymdeithasol i wella’r data rydym yn eu casglu a’u dadansoddi. 

“I mi, mae gan y SYG bopeth: cyfleoedd cyffrous i lunio tirwedd data’r DU, cymorth i gynnal a meithrin sgiliau newydd, gyda’r gallu i weithio oriau hyblyg.”

Shamela – Ymchwilydd Cymdeithasol

Ystadegwyr yn y SYG 

Mae ein hystadegwyr yn gweithio ar rai o’r materion mwyaf amserol yn y DU, gan gasglu, cynhyrchu a rhannu ein hystadegau swyddogol. 

Fel ystadegydd neu wyddonydd data yn y SYG, byddwch yn gweld ein hystadegau’n cael sylw yn y wasg yn rheolaidd. Gallech fod yn helpu i ddatrys problemau wrth reoli a dadansoddi data neu’n gwneud gwaith ymchwil ar ffynonellau, methodolegau a thechnegau data newydd. 

Daearyddwyr yn y SYG 

Mae data lleoliadau yn rhan bwysig o’n bywydau pob dydd, p’un a ydych yn defnyddio ap i gael cyfarwyddiadau, yn trefnu tacsi neu’n archebu tecawê. Cânt eu defnyddio i lunio ein hystadegau hefyd, sy’n helpu pobl i ddatblygu polisïau a gwneud penderfyniadau pwysig. 

Fel daearyddwr yn y SYG, byddwch yn gweithio ar gynhyrchion a datrysiadau geo-ofodol arloesol. Bydd eich sgiliau yn sicrhau bod gennym yr adnoddau a’r data daearyddol cywir i lunio’r dadansoddiad gorau posibl. 

Yn hoffi’r hyn rydych chi’n ei weld? 

Os ydych am i’ch cyfraniad wneud gwahaniaeth go iawn, dewch i ymuno â ni.