Gwella bywydau drwy ddata
Pan fyddwch yn ymuno â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), byddwch yn dechrau gyrfa sy’n cyfrif.
Mae’r gwaith rydym yn ei wneud a’r data rydym yn eu cyhoeddi yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Rydym yn gyfrifol am rannu data a dadansoddiadau am rai o’r materion pwysicaf sy’n wynebu’r DU.
Rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn
Mae’r gwaith rydym yn ei wneud yn wirioneddol bwysig. Gwyddom mai dim ond drwy gyflogi’r bobl gywir a chefnogi ein cydweithwyr y gallwn gyflawni’r gwaith pwysig hwn. Dyna pam ein bod wedi creu lle gwych i weithio ynddo lle bydd gennych bopeth sydd ei angen arnoch i fod y gorau y gallwch fod.
“Nid dim ond yr hyn y mae SYG am ei gael gennych chi sy’n bwysig. Bydd yn buddsoddi ynddoch chi gymaint ag y byddwch chi’n ei fuddsoddi ynddi hi, ac rwy’n meddwl bod hynny’n wych!”
Jack – Uwch-swyddog Ymchwil
Dewch o hyd i ble rydych chi'n perthyn
Er bod ystadegau yn rhan o'n henw, mae gennym ddigon o rolau gwahanol yn SYG. Dewch o hyd i un sy'n addas i chi.
Digidol a data
Ymunwch ag un o'n timau arbenigol, gan ddefnyddio'r dechnoleg a'r technegau diweddaraf i brosesu data.
Cyflawni gweithredol
Gan weithio fel cyfwelydd maes, neu yn un o'n rolau swyddfa, byddwch yn chwarae rhan bwysig wrth gyflawni ein gwaith ar draws y sefydliad.
Rolau dadansoddol
Ymunwch â'r arbenigwyr sy'n ein helpu i greu ystadegau swyddogol sy'n gwneud gwir wahaniaeth.
Ein buddiannau
Eich llesiant
“Mae SYG yn cynnig cymorth a chefnogaeth i wneud yn siŵr bod fy amser yn y gwaith yn brofiad cadarnhaol.” Cath – Rheolwr Cynefino
Eich gwaith chi eich ffordd chi
“Mae gweithio hyblyg yn golygu cydbwysedd iach rhwng fy mywyd yn y gwaith a fy mywyd gartref.” Oliver – Prif Swyddog Ymchwil
Eich pensiwn
“Mae cynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil yn cynnig buddiannau ardderchog i fi a'm hanwyliaid.” Sonia – Pennaeth Dylunio Digidol a'r Academi Dechnoleg