Skip to main content

Rolau rheoli prosiectau a rhaglenni

A person poised with a pen taking notes in a notebook. They are in deep thought sitting at a desk in what appears to be an office with a laptop open in front of her.

Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae ein timau rheoli prosiectau a rhaglenni yn cefnogi’r rhaglenni pwysig sy’n creu ein hystadegau. 

Mae unigolion a sefydliadau ledled y wlad yn defnyddio ein gwaith i wneud penderfyniadau pwysig. Drwy gyflogi’r bobl orau i reoli ein prosiectau, gallwn gynnig y gwasanaeth gorau posibl i’n defnyddwyr.

Rheoli prosiectau a rhaglenni yn y SYG 

O ddadansoddwyr portffolio a rheolwyr adnoddau i swyddogion cefnogi prosiectau a rheolwyr buddiannau, mae ein timau yn sicrhau bod y SYG yn cyflwyno ystadegau sydd o fudd i bawb. 

Gallech fod yn cydlynu’r broses o gyflawni ein harolwg diweddaraf neu’n rheoli un o’n llu o brosiectau arloesol. 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Broffesiwn Cyflawni Prosiectau’r Llywodraeth ar wefan Gov.uk. 

“Mae diwylliant SYG yn gynnes, yn groesawgar ac yn gyfeillgar heb os, sy’n golygu ei fod yn lle braf i weithio ynddo.”

Megan – Pennaeth Cynllunio a Rheoli Portffolio

Dysgu a datblygu ym maes rheoli prosiectau a rhaglenni 

Pan fyddwch yn ymuno â’r SYG, rydym am i chi feithrin eich sgiliau ymarferol ac academaidd yn barhaus ym maes rheoli prosiectau a rhaglenni. 

I’ch helpu i wneud hyn, gallwch neilltuo amser ar gyfer hyfforddiant ffurfiol a chymwysterau proffesiynol. Neu gallwch ymuno â’n Cymunedau Ymarfer a’n grwpiau diddordeb arbennig, lle mae pobl mewn rolau tebyg yn rhannu’r datblygiadau arloesol, y wybodaeth a’r cyfleoedd dysgu diweddaraf.

“Mae’r SYG wedi fy nghefnogi gyda chymwysterau cyflawni prosiectau ac mae’n rhoi pwyslais gwirioneddol ar ddatblygu ei phobl.” 

Abi – Rheolwr Prosiectau 

Yn hoffi’r hyn rydych chi’n ei weld? 

Os ydych am i’ch cyfraniad wneud gwahaniaeth go iawn, dewch i ymuno â ni.