Skip to main content

SYG Bywyd

Darganfyddwch beth yw barn ein cydweithwyr am weithio yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS)

Two women smiling engaged in conversation in one of the relaxed the ONS cafe seating meeting areas. They are sat facing each other at a white table in modern upholstered chairs. One woman gestures with her laptop open in front of her while sat opposite the other woman smiles.

Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rydym yn rhannu data a dadansoddiadau am rai o’r materion pwysicaf sy’n wynebu’r DU. Dim ond drwy gyflogi’r bobl gywir, cefnogi ein cydweithwyr a chreu lle gwych i weithio ynddo y gallwn wneud hyn.

Rydym yn rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn. Dyma beth mae ein cydweithwyr yn ei feddwl am fywyd yn SYG.

“Mae SYG wir yn dilyn ei phregeth ei hun o ran cydbwysedd bywyd a gwaith a gweithio hybrid.”

Patrick – Pennaeth Newyddiaduraeth Data

Pam mae gweithio yn SYG yn wych

Rydym yn gwybod bod bywyd yn llawn uchafbwyntiau ac isafbwyntiau, a bydd adegau pan fydd angen cymorth arnoch.

Drwy ein trefniadau gweithio hyblyg, gallwch ddewis treulio rhywfaint o’ch amser yn gweithio gartref, yn ogystal ag yn un o’n swyddfeydd. Felly gallwch wneud y gorau o’ch amser, p’un a ydych yn rhiant, yn ofalwr neu wrth eich bodd yn mynd i’r gampfa. Ac mae oriau hyblyg yn SYG yn golygu y gallwch gytuno ar y patrwm gweithio sydd orau i chi ac i ni.

Gallwch hefyd fwynhau bargeinion a gostyngiadau arbennig, yn ogystal â gwobrau sy’n cydnabod eich llwyddiant.

Am ddwy flynedd yn olynol, o ganlyniad i bleidleisiau ein cydweithwyr, gwnaethom ennill y wobr am y cyflogwr gorau ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith yng Ngwobrau blynyddol Dewis y Gweithwyr Glassdoor.

“Roedd angen i mi addasu’r ffordd roeddwn i’n gweithio a llwyddodd SYG i ddiwallu fy anghenion.”

Nilo – Hyfforddwr Technegol

Gwneud y gweithle yn hygyrch i bawb

Rydym am i ddiwrnod gwaith pawb fod yn gyfforddus ac yn groesawgar. Dyna pam ein bod yn cynnig amrywiaeth o addasiadau gweithle i’n cydweithwyr. Gallwch gael cadair sy’n rhoi mwy o gefnogaeth i chi, desg y gellir ei haddasu, rhaglen darllen sgrin neu ddehonglwr Iaith Arwyddion Prydain hyd yn oed.

Rydym yn falch o ddathlu amrywiaeth, ac mae grwpiau a rhwydweithiau ym mhob rhan o SYG a all helpu i addysgu ac ennyn diddordeb pobl mewn perthynas â chydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth.

“Roedd gen i brofiad blaenorol o newid busnes ond roedd cael swydd yn y SYG yn berffaith i mi allu datblygu a thyfu.”

Matt – Rheolwr Newid Busnes 

Gweithio yn swyddfeydd SYG

Rydym yn cydnabod y gall gwaith gael effaith gadarnhaol ar eich iechyd a’ch llesiant. Yn ein swyddfeydd yng Nghasnewydd, Titchfield, Llundain, Darlington, Manceinion a Chaeredin, rydym am i brofiad pawb fod yn gadarnhaol ac ystyrlon.

Felly rydym wedi creu gweithle sy’n cefnogi trefniadau gweithio hyblyg. P’un a oes angen rhywle i ganolbwyntio neu gydweithio arnoch chi, byddwch bob amser yn dod o hyd i le sy’n addas i’ch anghenion.

Ydych chi’n hoffi’r hyn rydych chi’n ei weld?

Os ydych am i’ch cyfraniad wneud gwahaniaeth go iawn, dewch i ymuno â ni.