Skip to main content

Rolau gwasanaethau corfforaethol

A figure walks though a bright conference room with 6 round tables with blue and green chairs surrounding them.

Mae gwasanaethau corfforaethol yn chwarae rhan bwysig yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG). 

P’un a ydynt yn recriwtio cydweithwyr newydd, yn rheoli materion ariannol, yn ein cadw ni’n ddiogel neu’n cynnig cymorth cyfreithiol, mae gan y bobl yn y timau hyn ddealltwriaeth glir o’r hyn sy’n digwydd ym mhob rhan o’r sefydliad. Ni allem wneud yr hyn rydym yn ei wneud hebddynt.

Cyfathrebu a dylunio yn y SYG 

Yn aml, byddwch yn gweld ein hystadegau a’n dadansoddiadau ym mhenawdau diweddaraf y newyddion. Felly, mae’n bwysig bod yr hyn rydym yn ei ddweud a’r ffordd rydym yn ei ddweud yn gyson ac yn gywir. 

Fel aelod o’n timau cyfathrebu a dylunio, byddwch yn ein helpu i rannu gwybodaeth bwysig am ein gwaith â chynulleidfaoedd o fewn y SYG a thu hwnt. 

Gallech chi wneud y canlynol: 

  • ysgrifennu a golygu cynnwys gwefannau 
  • gweithio ar yr ymgyrchoedd marchnata sy’n hyrwyddo ein gweithgarwch 
  • ymgysylltu â’r cyfryngau i wella ymwybyddiaeth o rai o ystadegau pwysicaf y DU 
  • creu cynnwys ac ymgyrchoedd ar gyfer eich cydweithwyr yn y SYG 
  • helpu i ddylunio popeth o daflenni a llyfrynnau i fideos a delweddau ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol 
  • llunio strategaethau effeithiol i ymgysylltu â rhanddeiliaid 

Gwaith masnachol yn y SYG 

Mae’r tîm masnachol yn y SYG yn sicrhau bod gan bawb y nwyddau a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. 

Byddwch yn cydweithio’n agos â chwsmeriaid a chyflenwyr i helpu ein cydweithwyr i gael popeth o ddeunydd swyddfa a meddalwedd i drefniadau teithio a chaledwedd. Byddwch hefyd yn ein helpu i ddilyn yr holl reolau a rheoliadau perthnasol i amddiffyn enw da y SYG. 

Fel rhan o’r tîm, gallech fod yn trefnu contractau ar gyfer rhai o’n prosiectau pwysicaf, fel Cyfrifiad 2021 ac Arolwg Heintiadau COVID-19. 

Archwilwyr mewnol yn y SYG 

Mae ein tîm archwilio mewnol yn asesu a yw meysydd eraill yn y SYG yn cyflawni eu hamcanion. 

Fel archwilydd mewnol, byddwch yn sicrhau bod y rheolaethau sydd ar waith gennym yn ddigonol ac yn effeithiol. Byddwch hefyd yn asesu a ydym wedi nodi’r holl risgiau posibl a sicrhau eu bod yn cael eu rheoli’n briodol. 

Ond yn ogystal â rheoli risgiau, byddwch hefyd yn cefnogi: 

  • meysydd o newid sefydliadol 
  • materion y mae rheolwyr yn pryderu yn eu cylch 
  • prif weithgareddau a swyddogaethau’r SYG 

“Mae’r SYG wedi cynnig cyfleoedd i mi ddatblygu’n broffesiynol, ond mae hefyd wedi ariannu fy nghymhwyster Lefel 7 gyda’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu.” 

Lucy – Arweinydd Doniau a Datblygu

Adnoddau dynol yn y SYG 

Pan fyddwch yn ymuno â’r tîm adnoddau dynol yn y SYG, byddwch yn rheoli ein hadnodd pwysicaf, ein pobl. 

Gallech fod yn helpu gyda’n rhaglenni amrywiaeth a chynhwysiant neu’n cefnogi ein cynlluniau talu a gwobrwyo. O gynllunio’r gweithlu a dylunio sefydliadol i ddatblygu hyfforddiant a chysylltiadau â chyflogeion, bydd eich sgiliau yn galluogi ein timau i wasanaethu’r cyhoedd yn fwy effeithiol. 

Helpwch ni i roi’r doniau cywir yn y lle cywir a sicrhau bod y SYG yn lle gwych i weithio ynddo. 

Risg a sicrwydd yn y SYG 

Mae ein timau risg a sicrwydd yn cyfuno gwaith rheoli risg effeithiol gydag adolygiadau sicrwydd manwl i wneud swyddi pawb ychydig yn haws. 

Gallwch ein helpu i ddeall pam y mae risgiau a phroblemau’n codi a sicrhau ei bod yn llai tebygol y byddant yn codi eto. Neu os byddant, gallwch helpu i leihau effaith y risg, os bydd yn dod yn broblem. 

Gan weithio’n agos gyda thimau eraill, drwy adroddiadau risg a sicrwydd penodol rheolaidd, gallwch ein helpu i wneud penderfyniadau gwell ac amddiffyn enw da y SYG. 

Gwaith ariannol yn y SYG 

Mae ein timau ariannol yn arwain ac yn goruchwylio rheolaeth ariannol, adroddiadau ariannol a chyfrifyddu yn y SYG. 

Gallech fod yn cydlynu ac yn llunio ein cyfrifon blynyddol, yn creu anfonebau neu’n rhoi cyngor arbenigol ar faterion ariannol. Byddwch hefyd yn helpu i sicrhau ein bod yn talu ein cydweithwyr yn y SYG a’n cyflenwyr yn gywir ac ar amser. 

Eich cyfrifoldeb chi fydd diogelu uniondeb ariannol y SYG drwy hyrwyddo gwerth am arian a rhoi’r wybodaeth a’r dadansoddiadau sydd eu hangen ar bobl.

Mae gan y SYG gyfleusterau heb eu hail a thîm rheoli cynhwysol sy’n ein grymuso, ac rwyf wir yn mwynhau’r rôl. “

Mathew – Uwch-reolwr Cyfleusterau

Eiddo yn y SYG 

Mae ein cydweithwyr mewn rolau eiddo yn gweithio ym mhob rhan o’r SYG i sicrhau bod pob prosiect a rhaglen sy’n gysylltiedig ag eiddo yn rhedeg yn esmwyth ac yn effeithlon. 

Gallech fod yn sicrhau bod y mesurau iechyd a diogelwch cywir ar waith, yn rheoli ein gwasanaethau rheoli cyfleusterau neu’n cefnogi lesoedd a chytundebau eraill ar gyfer ein swyddfeydd. 

Fel rhan o’r tîm prosiectau, byddwch yn sicrhau ein bod yn rheoli ac yn cyflawni ein holl fuddsoddiadau eiddo yn effeithlon ac yn llwyddiannus. Neu gallech ymuno â’n tîm cynaliadwyedd, gan helpu i leihau effaith y SYG ar yr amgylchedd er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â deddfau a rheoliadau. 

Diogelwch yn y SYG 

Mae’r tîm diogelwch yn y SYG yn cynnwys pum maes, sef:  

  • seiberddiogelwch 
  • diogelwch ffisegol a pharhad busnes 
  • rheoli dealltwriaeth a gwybodaeth
  • cynghori ar risgiau diogelwch 
  • cydymffurfiaeth ac archwilio diogelwch 

Gallai eich diwrnodau gynnwys rhoi cyngor risg ar brosiectau, creu ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch neu reoli cylch oes gwybodaeth, o’r adeg y caiff ei chreu i’r adeg y caiff ei gwaredu. 

Gallech fod yn creu ymgyrchoedd gwe-rwydo i wella ein diogelwch data, gan gynllunio mesurau lliniaru risg ar gyfer prosiect busnes neu sicrhau bod ein systemau mynediad i ystafelloedd swyddfa yn gweithio ac yn ddiogel. Beth bynnag fo’r rôl, byddwch yn gyfrifol am ddiogelu ein sefydliad a’n staff. 

“Rwyf wedi bod yma ers 19 o flynyddoedd, ac mae pob diwrnod yn wahanol. Ynghyd â’r bobl, dyna pam rwyf wedi aros mor hir.”

Catty – Diogelwch a Rheoli Gwybodaeth 

Yn hoffi’r hyn rydych chi’n ei weld? 

Os ydych am i’ch cyfraniad wneud gwahaniaeth go iawn, dewch i ymuno â ni.