Skip to main content

Lucy

Arweinydd doniau a datblygu.

Er iddi ddweud ei bod wedi dod o hyd i’w gyrfa ym maes Adnoddau Dynol “drwy hap a damwain”, mae Lucy bellach yn arweinydd doniau a datblygu i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).

Fel llawer iawn o weithwyr adnoddau dynol proffesiynol eraill, dechreuodd fy ngyrfa drwy hap a damwain. Ar ôl y brifysgol, lle’r astudiais hanes a gwleidyddiaeth, bûm yn gweithio yn y sector preifat, gan gynnwys chwe mis yn Boston, Unol Daleithiau America. Dyna ble y gwnes ddarganfod fy mrwdfrydedd dros ddysgu a datblygu, ac rwyf wedi bod wrth fy modd gyda’r maes ers hynny.

Mae helpu eraill a gwneud gwahaniaeth yn fy nghymell. Mae gweithio ym maes adnoddau dynol yn cynnig hyn bob diwrnod. Mae gweld sut mae arweinwyr wedi datblygu eu hunain a’u timau gan ddefnyddio’r cyfleoedd dysgu rydych wedi’u rhoi iddynt wir yn werth chweil.

Rwyf wedi ymddiddori yn y Gwasanaeth Sifil erioed ac, wrth ystyried symud i Gymru, gwelais rôl rheolwr datblygu arweinyddiaeth yn SYG. Roedd hynny yn 2018 ac rwyf wedi mynd o nerth i nerth.

Ers ymuno â SYG, rwyf wedi bod yn rhan o lawer o fentrau a phrosiectau datblygu diddorol. Er enghraifft, rwyf wedi trefnu llawer o ddiwrnodau cwrdd i ffwrdd i uwch-dimau arwain ac wedi dadansoddi anghenion dysgu’r cwmni cyfan. Rwyf wedi cefnogi rheolwyr ar bob lefel ar eu llwybrau datblygu ac wedi ymuno â sawl gweithgor trawslywodraethol.

Mae SYG wedi cynnig cyfleoedd i mi ddatblygu’n broffesiynol drwy’r profiadau hyn, ond mae hefyd wedi ariannu fy nghymhwyster Lefel 7 gyda’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu. Rwyf nawr yn ehangu fy ngwybodaeth adnoddau dynol ymhellach drwy weithio yn y tîm Doniau a Pherfformiad.

Mae’r cydbwysedd bywyd a gwaith yn SYG heb ei ail. Mi es i ar absenoldeb mamolaeth yn 2021 ac roedd pawb mor gefnogol o’r eiliad y gwnes i gyhoeddi fy mod i’n feichiog. Mae’r gefnogaeth honno wedi parhau ers i mi ddychwelyd hefyd ac rwyf wedi penderfynu dod yn ôl gan weithio oriau cywasgedig. Er bod hynny’n gallu bod yn heriol, mae fy rheolwyr wedi bod yn gefnogol dros ben, sy’n hynod werthfawr i mi a fy nheulu.

Ydych chi’n hoffi’r hyn rydych chi’n ei weld?

Os ydych am i’ch cyfraniad wneud gwahaniaeth go iawn, dewch i ymuno â ni.