Skip to main content

Chris

Bennaeth Seilwaith a Saernïaeth Cwmwl.

Chris stands in one of the team workspaces in the ONS open plan offices with his arms crossed smiling. He wears a relaxed grey flannel shirt and jeans. In the background there is a glass walled office and sit/stand desks.

Ers yn ifanc, roedd Chris yn gwybod ei fod am weithio ym maes TG. Mae’r hyblygrwydd yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn golygu y gall hefyd fwynhau teithio.

Roeddwn i’n gwybod fy mod i am weithio ym maes TG pan oeddwn i’n 13 oed. Ond, ar y pryd, dim ond dau lwybr oedd ar gael: rhaglennu neu weithredu. Felly, dilynais y llwybr rhaglennu ac fe es i i’r brifysgol ym Mryste. Wnes i ddim sylweddoli tan i mi ddechrau gweithio yn y maes ei fod yn eithaf ailadroddus ac nad oedd yn ddigon amrywiol i mi. Dyna pryd y dechreuais ymddiddori mewn rhwydweithiau a gweinyddion a arweiniodd, yn y pen draw, at fy arbenigedd presennol mewn seilwaith a saernïaeth cwmwl.

Nawr, rwy’n Bennaeth Seilwaith a Saernïaeth Cwmwl yn SYG. Rwy’n arwain tîm o reolwyr cyflawni, peirianwyr meddalwedd a phenseiri technegol. Rydym yn canolbwyntio ar Amazon Web Services er mwyn creu llwyfannau cyflawni diogel ac awtomataidd sy’n unol â strategaeth “cwmwl yn gyntaf” SYG.

Rwy’n meddwl bod fy ngwaith yn ddiddorol am ei fod yn cyfrannu at fudd y cyhoedd, ac mae’n cynnig cydbwysedd gwych rhwng datblygu datrysiadau newydd a gweithredu. Fi sy’n arwain yr ochr dechnegol yn fy nhîm, sy’n cynnwys cymysgedd o reolwyr cyflawni, peirianwyr meddalwedd a phenseiri technegol. Rydym yn creu llwyfannau diogel a dibynadwy ag enw da ac yn dilyn egwyddorion gweithredu DevSec ym mhopeth a wnawn.

Cyn ymuno â SYG, roeddwn i’n gweithio yn y Swyddfa Eiddo Deallusol, sydd yn yr un adeilad â SYG. Yn ystod fy amser gyda’r Swyddfa Eiddo Deallusol, des i i adnabod tîm SYG. Cefais fy nenu at y sefydliad oherwydd ei ddiwylliant sy’n cael ei ysgogi gan dechnoleg, yn debyg i fy un i. Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi’r amgylchedd gwaith cefnogol a’r hyblygrwydd y mae SYG yn eu cynnig. Mae fy ngwraig yn gweithio yn SYG hefyd, ac mae’r ddau ohonom wrth ein boddau yn teithio gyda’n merch. O ganlyniad i’n hamserlenni hyblyg, gallwn gronni digon o wyliau i allu teithio i Ganada ac Awstralia. Ond, ar ein teithiau i Ganada, rhaid cyfaddef ein bod yn tueddu i wneud mwy o sgïo na threulio amser gyda’r perthnasau rydym yn ymweld â nhw.

Ydych chi’n hoffi’r hyn rydych chi’n ei weld?

Os ydych am i’ch cyfraniad wneud gwahaniaeth go iawn, dewch i ymuno â ni.