Skip to main content

Rachel

Uwch-reolwr Cyflawni Ystwyth.

Rachel sits in front at a desk with her laptop. She's looking directly at the viewer and smiling and wears a forest green wool jumper.

Nes i Rachel ddechrau recriwtio ar gyfer rolau Digidol, Data a Thechnoleg, nid oedd wedi sylweddoli bod ganddi ddiddordeb yn y maes ei hun. Nawr, mae’n Uwch-reolwr Cyflawni Ystwyth yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).

Rwyf wedi bod yn gweithio yn SYG am bedair blynedd, gan ddechrau yn yr adran Adnoddau Dynol. Pan ddechreuais recriwtio ar gyfer rolau Digidol, Data a Thechnoleg, sylweddolais fod diddordeb gennyf mewn gyrfa ym maes technoleg fy hun.

Argymhellodd fy rheolwr fy mod yn dod o hyd i reolwr cyflawni i’m mentora yn yr adran Gwasanaethau Digidol a Thechnoleg ac, o fewn ychydig fisoedd, gwnes gais llwyddiannus am swydd Rheolwr Cyflawni. Nawr, rwy’n Uwch-reolwr Cyflawni Ystwyth mewn tîm sy’n arbenigo ym meddalwedd ‘Power Platform’ Microsoft.

Un o’n prosiectau ar hyn o bryd yw codi data er mwyn lleihau baich gweinyddol, gyda chynlluniau i’w roi ar waith yn SYG a chyrff eraill yn y llywodraeth. Mae SYG yn cynnig cyfleoedd gwych i ddatblygu’ch gyrfa, ac mae’r oriau hyblyg yn golygu y gallaf fynd â fy mab ar benwythnosau hir i ymweld â gwledydd gwahanol. Mae’r dechnoleg rydym yn ei defnyddio yn fwy blaengar nag yr oeddwn yn ei ddisgwyl hefyd. Mae’r amgylchedd gwaith mor gefnogol a dynamig.

Cefais gyfnod anodd pan oedd fy mab yn ddifrifol wael ar ôl i’w bendics fyrstio. Roedd yn yr ysbyty am bythefnos, a hynny yn ystod cyfnod clo’r coronafeirws (COVID-19). Ond rhoddodd SYG yr amser a’r hyblygrwydd i mi gefnogi fy nheulu. Yn wahanol i sefydliadau eraill ble rwyf wedi gweithio, lle byddent wedi disgwyl i mi gyflawni o hyd.

Mae fy mab wedi gwella’n llwyr ac rwyf mor ddiolchgar am amgylchedd cefnogol SYG.

Ydych chi’n hoffi’r hyn rydych chi’n ei weld?

Os ydych am i’ch cyfraniad wneud gwahaniaeth go iawn, dewch i ymuno â ni.