Skip to main content

Jenny

Peiriannydd Seilwaith Cwmwl.

Jenny stands in one of the team workspaces in the ONS open plan offices with her hands held gently to her front, she's smiling and wears a grey knitted jumper and black jeans.

Yn rhwystredig gyda diffyg cyfleoedd i gamu ymlaen, gadawodd Jenny ei gyrfa flaenorol o 15 mlynedd ac mae bellach yn beiriannydd seilwaith cwmwl yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).

Cyn ymuno â SYG, treuliais 15 mlynedd fel gweithiwr cymorth yn helpu teuluoedd digartref. Fodd bynnag, sylweddolais fy mod am gael mwy o gyfleoedd i gamu ymlaen, hyblygrwydd i weithio o gwmpas fy nheulu ifanc, a gyrfa a oedd yn llai heriol yn emosiynol.

Penderfynais ddilyn cwrs meistr cyfnewid ac rwyf bellach yn gweithio fel peiriannydd seilwaith cwmwl, yn arbenigo yn Amazon Web Services.

Er fy mod wrth fy modd gyda’m swydd fel gweithiwr cymorth, roedd y straen emosiynol yn drwm ac nid oedd y gwaith sifft yn cynnig unrhyw hyblygrwydd, a oedd yn golygu bod ceisio trefnu gofal plant i’m mab, sydd bellach yn 5 oed, yn heriol. Rwy’n ei chael hi’n haws datrys problemau TG o gymharu â phroblemau dynol.

Mi es i i ddiwrnod agored ym mhencadlys SYG yng Nghasnewydd, lle clywais gan gyn-raddedigion a oedd yn gweithio yno. Gwnaethant sôn am eu profiad o weithio yn SYG, gan gynnwys beth roeddent yn gweithio arno a’r diwylliant.

Roeddwn i’n hoffi naws y lle, ac roedd y siaradwyr yn ymddangos yn wirioneddol frwd dros eu gwaith a’r sefydliad. Roeddwn yn meddwl y byddai’r dechnoleg yn hen, ond nid felly oedd hi o gwbl. Pan ddechreuais yn SYG, sylweddolais yn gyflym ein bod yn gweithio ar rai prosiectau cyffrous iawn yn y maes.

Mae fy rôl fel peiriannydd seilwaith cwmwl yn ddiddorol ac yn heriol, ond mae hefyd yn fy ngalluogi i gael y cydbwysedd bywyd a gwaith a oedd ar goll yn fy ngyrfa flaenorol. Mae fy nhîm mor gefnogol, ac mae fy niwrnodau yn ddiddorol ac amrywiol. Does dim diwrnod diflas.

Mae’r oriau hyblyg yn wych oherwydd eu bod yn wirioneddol hyblyg, a chewch eich annog i wneud yn fawr ohonynt. Caiff y cyfle i ddysgu o fewn eich maes, neu’r tu allan iddo hyd yn oed, ei gefnogi bob amser hefyd, sy’n chwa o awyr iach.

Ydych chi’n hoffi’r hyn rydych chi’n ei weld?

Os ydych am i’ch cyfraniad wneud gwahaniaeth go iawn, dewch i ymuno â ni.