Ein buddiannau
Rydyn ni wedi adeiladu lle gwych i weithio lle bydd gennych chi bopeth sydd ei angen arnoch i fod ar eich gorau.
Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), mae ein holl gydweithwyr yn cyfrif. Dyma rai o’r buddiannau y gallwch eu mwynhau pan fyddwch yn gweithio i SYG.
“Mae’r cydbwysedd bywyd a gwaith yn fudd go iawn. Rwy’n fam, mae gen i blentyn ifanc, a gallaf weithio o gwmpas hynny.”
Jenny – Peiriannydd Seilwaith Cwmwl
Eich gwaith chi eich ffordd chi
Er mwyn eich helpu i greu cydbwysedd iach rhwng eich bywyd gwaith a chartref, rydym yn cynnig:
- amrywiaeth o opsiynau gweithio hyblyg, gan gynnwys rhannu swydd ac oriau yn ystod y tymor.
- oriau hyblyg rhwng 5am a 10pm, felly gallwch gytuno ar y patrwm gweithio sydd orau i chi ac i ni*
- y cyfle i dreulio rhywfaint o’ch amser yn gweithio gartref, yn ogystal ag yn un o’n swyddfeydd. Byddwch yn treulio o leiaf 40% o’ch amser yn un o’n swyddfeydd a all gael ei addasu dros amser i ddiwallu anghenion busnes.
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol, sy’n codi i 30 diwrnod ar ôl gweithio gyda ni am bum mlynedd, a naw diwrnod ychwanegol o wyliau cyhoeddus a gwyliau braint
- chwe mis o absenoldeb mamolaeth, absenoldeb mabwysiadu neu absenoldeb rhiant a rennir â chyflog llawn, gyda thair wythnos o absenoldeb â chyflog llawn i bartneriaid ac absenoldeb â chyflog ar gyfer unrhyw apwyntiadau
- amrywiaeth o absenoldeb arbennig â chyflog, gan gynnwys absenoldeb anabledd, absenoldeb ar gyfer gwirfoddoli ac absenoldeb i ofalwyr
*Nid yw oriau hyblyg yn gymwys i Uwch-weision Sifil
“Mae gan SYG gynllun pensiwn ardderchog, a fydd yn fy ngalluogi i ymddeol pan fyddaf yn dymuno gwneud hynny a chael bywyd hamddenol a di-straen.”
Hafiza – Caffael Doniau
Eich pensiwn
Eich pensiwn yw un o fuddiannau pwysicaf ymuno â’r Gwasanaeth Sifil.
Mae pensiwn y Gwasanaeth Sifil gystal â’r rhan fwyaf o opsiynau pensiwn, neu’n well na nhw. Mae’n cynnig buddiannau ardderchog i chi, eich teulu a’ch anwyliaid. Ewch i wefan pensiynau’r Gwasanaeth Sifil i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun.
Ewch i wefan pensiynau’r Gwasanaeth Sifil i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun.
“Rwy’n rhedwr brwd ac yn nofio tipyn hefyd. Mae’r gostyngiadau ar weithgareddau a’r arbedion rwyf wedi’u cael ar gyfarpar wedi bod yn anhygoel.”
Jack – Uwch-swyddog Ymchwil
Eich ffordd o fyw
Gallwch gael budd o amrywiaeth o ostyngiadau yn SYG, gan gynnwys bargeinion a chynigion mewn rhai archfarchnadoedd, manwerthwyr stryd fawr, bwytai, campfeydd, lleoliadau teithio a mwy.
Drwy glwb chwaraeon a hamdden y Gwasanaeth Sifil, gallwch gael cynigion arbennig a gostyngiadau ar chwaraeon a gweithgareddau hamdden. Mewn partneriaeth â Halfords, Tredz a siopau beiciau annibynnol, mae ein cynllun Beicio i’r Gwaith yn golygu y gallwch arbed hyd at 42% ar feiciau ac ategolion.
“Mae SYG yn cymryd cynhwysiant ac amrywiaeth o ddifrif. Mae’r Rhaglenni Amrywiaeth i Arweinyddiaeth wedi fy helpu i go iawn.”
Keesia – Peiriannydd Data
Eich llesiant
Rydym yn cydnabod y gall gwaith gael effaith gadarnhaol ar eich iechyd a’ch llesiant. Dyna pam ein bod yn cynnig y canlynol i chi:
- gwasanaeth cymorth cyfrinachol 24/7 i weithwyr, sy’n rhoi cymorth emosiynol i chi a’ch teulu
- mynediad at ein cynghreiriaid iechyd meddwl a chael cymorth ganddynt
- amrywiaeth o addasiadau yn y gweithle, o gadeiriau sy’n rhoi mwy o gefnogaeth a desgiau sefyll i raglenni darllen sgrin neu ddehonglwyr
- mynediad at grwpiau rhwydweithiau amrywiaeth, sy’n helpu pobl i drafod a hyrwyddo cydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth
“Mae’r cynllun cydnabod a gwobrwyo yn ffordd wych o ddweud diolch i gydweithwyr sy’n mynd yr ail filltir.”
Nilo – Hyfforddwr Technegol
Eich gwobrwyo am eich cyflawniadau
Mae cydnabod a gwobrwyo gwaith caled yn bwysig i ni.
Rydym yn dathlu llwyddiant ac ymdrech ein pobl yng Ngwobrau Rhagoriaeth SYG a Gwobrau’r Gwasanaeth Sifil.
Hefyd, byddwch yn gallu enwebu cydweithwyr eraill drwy ein cynllun cydnabyddiaeth, gyda thaliadau gwobrwyo untro.
“Mae fy merch yn mynd i’r feithrinfa ar y safle, sy’n ddefnyddiol iawn ar gyfer gofal plant. Ac mae’n golygu y gallwn gymudo gyda’n gilydd, sy’n braf.”
Patrick – Pennaeth Newyddiaduraeth Data
Eich amgylchedd gwaith
Rydym wedi creu gweithle gwych, modern a chreadigol sy’n cefnogi trefniadau gweithio hyblyg.
O fannau i gymryd egwyl i fannau cydweithio ar gyfer cyfarfodydd a bythau tawel i ganolbwyntio, bydd rhywle i ddiwallu eich anghenion ar gael bob amser.
Yn ein swyddfeydd, gallwn gynnig:
- siopau coffi a bwytai
- campfeydd
- cyfleusterau meithrinfa ar y safle yng Nghasnewydd a chynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau
- cawodydd ac ystafelloedd newid
- lleoedd parcio ar y safle
- mannau gwefru cerbydau trydan
- cyfleusterau beiciau
“Rwy’n teimlo bod pobl yn ymddiried ynof i wneud fy rôl heb ddweud wrtha i sut mae ei gwneud, ac mae digon o gyfleoedd i ddatblygu.”
Megan – Pennaeth Cynllunio a Rheoli Portffolio
Datblygu eich gyrfa
Mae ymuno â SYG yn gam cyntaf mewn gyrfa a all fynd â chi i sawl cyfeiriad.
Rydym am wneud yn siŵr eich bod yn datblygu mewn ffordd sydd o fudd i bawb. Dyna pam ein bod yn canolbwyntio ar gynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu sy’n addas i chi ac i ni, gan gynnwys:
- datblygiad parhaus yn eich swydd
- cyrsiau a chymwysterau proffesiynol
- e-ddysgu ar-lein
- llwybrau arweinyddiaeth i gefnogi arweinwyr y dyfodol
- cyrsiau llesiant, cynhwysiant a gwydnwch
- cyfleoedd i symud rhwng adrannau ac o fewn y Gwasanaeth Sifil
Yn hoffi’r hyn rydych chi’n ei weld?
Os ydych am i’ch cyfraniad wneud gwahaniaeth go iawn, dewch i ymuno â ni.