Amdanom ni
Dysgwch fwy am yr hyn a wnawn yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Ni yw’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), sef cynhyrchydd ystadegau annibynnol mwyaf y DU. Mae’r gwaith a wnawn yn gwneud gwahaniaeth go iawn, drwy rannu data a dadansoddiadau am rai o’r materion pwysicaf sy’n wynebu’r DU.
Rydym yn enghraifft o’r hyn a gaiff ei alw’n “gorff hyd braich”. Mae hyn yn golygu ein bod yn adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU, ond nid ydym yn gweithio i unrhyw bleidiau gwleidyddol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth amdanom ar wefan SYG
“Rwy’n hoffi gwybod bod popeth rwy’n ei wneud yn cynhyrchu rhifau a fydd yn helpu pobl.”
Keesia – Peiriannydd Data
Ein pedair egwyddor
Mae'n bwysig ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni gwaith sy'n gwella bywydau pobl. Er mwyn ein helpu i wneud hyn, mae gennym bedair egwyddor.
Bod yn radical
Mae angen i ni addasu'n gyflym i newidiadau mewn cymdeithas ac anghenion y bobl sy'n defnyddio ein hystadegau. Gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf, gallwn gasglu, dadansoddi a chyfleu data mewn ffyrdd newydd a chreadigol.
Bod yn uchelgeisiol
Rydym yn defnyddio data er mwyn helpu i ddod o hyd i'r atebion i gwestiynau mwyaf heddiw. Drwy wynebu'r heriau hyn yn uniongyrchol, a dod o hyd i'r bobl orau i weithio yma, gallwn gyflawni gwaith sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn.
Bod yn gynhwysol
Rydym am greu gweithle lle mae pob un ohonom yn teimlo'n gyfforddus ac yn cael ein parchu. Dylai'r data rydym yn eu casglu a'r wybodaeth rydym yn ei rhannu olygu y gall pawb weld eu hunain yn y rhifau.
Bod yn gynaliadwy
Mae angen i ni fod yn effeithlon gyda'n hamser a'n hadnoddau, gan ddefnyddio'r technolegau, yr adnoddau a'r technegau cywir. Rydym hefyd yn ymrwymedig i leihau'r effaith negyddol a gawn ar yr amgylchedd.
“Mae SYG yn gweithio’n galed i greu diwylliant cadarnhaol lle gallwch reoli eich diwrnod mewn ffordd sy’n gweithio orau i chi.”
Sue – Pennaeth Recriwtio
Rydym yn rhan o Awdurdod Ystadegau’r DU
Heb fynd yn rhy dechnegol, mae Awdurdod Ystadegau’r DU yn gweithio i hyrwyddo a diogelu’r gwaith o gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau sydd o fudd i’r cyhoedd.
Yn syml, mae hynny’n golygu ein bod yn gwneud y canlynol:
- dweud wrth bobl, drwy ein cyhoeddiadau, am faterion cymdeithasol ac economaidd
- helpu i ddatblygu ac asesu’r polisi cyhoeddus sy’n sail i ddeddfwriaeth
- rheoleiddio ansawdd ein hystadegau
Er mwyn ein helpu i wneud hyn, mae Awdurdod Ystadegau’r DU wedi pennu strategaeth bum mlynedd, o’r enw “Statistics for the Public Good”.
Darllenwch fwy am y strategaeth ar wefan Awdurdod Ystadegau'r DU
Gweithio yn swyddfeydd SYG
Yn ein swyddfeydd yng Nghasnewydd, Titchfield, Llundain, Darlington, Manceinion a Chaeredin, rydym am i brofiad pawb fod yn gadarnhaol ac ystyrlon.
Ydych chi’n hoffi’r hyn rydych chi’n ei weld?
Os ydych am i’ch cyfraniad wneud gwahaniaeth go iawn, dewch i ymuno â ni.