Rolau cyflawni gweithredol
Y Proffesiwn Cyflawni Gweithredol yw’r proffesiwn mwyaf yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) ac ar draws holl adrannau’r llywodraeth.
Fel aelod o’r Proffesiwn Cyflawni Gweithredol, byddwch yn helpu i wireddu polisïau, strategaethau a chynlluniau’r Llywodraeth. Byddwch yn gwneud hyn drwy ddarparu gwasanaethau ac allbynnau pwysig yn uniongyrchol i’r cyhoedd neu gefnogi’r sawl sy’n gwneud hynny.
Mae’r Proffesiwn Cyflawni Gweithredol yn hanfodol er mwyn gallu darparu gwasanaethau yn llwyddiannus a chefnogi pbobl ledled y DU a thramor.
Cyflawni Gweithredol yn y SYG
Ni allem wneud ein gwaith pwysig heb gymorth ein cydweithwyr cyflawni gweithredol yn y SYG.
Gallech fod yn rhan o’n cymuned maes, gan weithio ledled y DU, neu’n un o’r gweithwyr cymorth busnes proffesiynol ym mhob un o gyfarwyddiaethau’r SYG.
Fel rhan o’n timau caffael a derbyn, byddwch yn helpu i ddod â ffynonellau data newydd i’n dadansoddwyr a’n timau arolygon.
Gweld ein holl rolau cyflawni gweithredol
“Mae gweithio yn SYG wedi rhoi amrywiaeth mawr i mi yn fy rolau, a hyblygrwydd yn y ffordd yr wyf yn gweithio, gan ganiatáu i mi adeiladu sgiliau a datblygu fy ngyrfa fy ffordd.”
Charlotte – Pennaeth Hyfforddiant Technegol
Dysgu a datblygu ym maes cyflawni gweithredol
Yn y SYG, gallwn eich helpu i feithrin eich sgiliau ym maes cyflawni gweithredol drwy ddysgu, hyfforddiant yn y gwaith, mentora, hyfforddiant ffurfiol a phrentisiaethau.
Gall hyn hefyd gael ei gefnogi gan lwybrau a chyfleoedd dysgu proffesiynol y Proffesiwn Cyflawni Gweithredol ar draws y llywodraeth.
Os ydych am ddechrau gyrfa newydd, mae prentisiaeth yn ffordd wych i bobl o bob cefndir feithrin sgiliau newydd. Mae’n gyfle i ennill cyflog a dysgu ar yr un pryd, gan weithio ochr yn ochr â staff profiadol wrth i chi ddatblygu.
“Pan fyddwch yn Gynorthwyydd Personol yn y SYG, mae pob diwrnod yn wahanol! Rwyf wedi meithrin amrywiaeth o sgiliau gwahanol rwyf yn eu cymhwyso i’r heriau newydd a ddaw gyda phob diwrnod. Mae’n gyffrous ac mae’n fy nghadw ar flaenau fy nhraed.”
Jacqueline – Cynorthwyydd Personol
Gweithrediadau arolwg
Mae ein cyfarwyddiaeth Gweithrediadau Arolygon Cymdeithasol yn gyfrifol am gasglu’r data ar gyfer yr arolygon cymdeithasol ac economaidd a gomisiynir gan adrannau’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill.
Gallech fod yn gweithio yn ein canolfan gyswllt, yn ein timau arolygon neu fel cyfwelydd maes. Beth bynnag fo’ch rôl, byddwch yn ddolen gyswllt bwysig rhwng y Llywodraeth a’r bobl. Mae rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i wneuthurwyr polisïau yn eu galluogi i gadw mewn cysylltiad ag amgylchiadau a safbwyntiau’r cyhoedd. Mae hyn yn golygu y gallant gynllunio ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol i ddiwallu anghenion y boblogaeth.
Gweithrediadau maes
Fel Cyfwelydd Maes sy’n cynnal arolygon swyddogol, chi fydd ein llygaid a’n clustiau ledled y DU, gan helpu i hysbysu’r Llywodraeth am gyflwr y genedl.
Bydd eich rôl yn cynnwys ymweliadau maes â chyfeiriadau, annog pobl i gwblhau ein harolygon. Neu fe allech chi fynd â phobl drwy’r arolygon yn eu cartrefi eu hunain.
Mae ein timau Llu Maes wedi’u lleoli’n lleol ar draws y wlad, yn gweithio’n rhan amser ac yn hyblyg trwy gydol yr wythnos. Felly, ble bynnag yr ydych yn byw, gallai fod cyfleoedd yn agos atoch chi.
Yn hoffi’r hyn rydych chi’n ei weld?
Os ydych am i’ch cyfraniad wneud gwahaniaeth go iawn, dewch i ymuno â ni.