Mathew
Uwch-reolwr Cyfleusterau .
Ers graddio yn 1998, mae gyrfa Mathew wedi creu cylch cyflawn. Mae’n teimlo’n gartrefol yn y SYG, mewn swydd sy’n rhoi cydbwysedd perffaith iddo rhwng ei ddiddordebau a’i sgiliau.
Pan ddechreuais fy rôl yn y SYG, wnes i ddim ystyried fy mod i wedi cwblhau 360 gradd yn fy ngyrfa.
Gadewais y brifysgol yn 1998 gyda gradd anrhydedd BSc Econ mewn Gwleidyddiaeth ac Economeg ar adeg pan nad oedd llawer o raglenni i raddedigion ar gael. Ar ôl sawl rôl yn y diwydiant lletygarwch a manwerthu, cefais rôl ym maes cysylltiadau cwsmeriaid yn y sector gwasanaethau ariannol a datblygais drwy’r rhengoedd yn gyflym.
Ar ôl prynu fy nghartref cyntaf a dechrau teulu, cefais rôl fel Rheolwr Cynnal a Chadw gyda darparwr tai cymdeithasol rhanbarthol. Cefais fy nghyflwyno i fyd rheoli eiddo am y tro cyntaf ac roeddwn wrth fy modd ar unwaith.
Gan weithio i sawl darparwr dros gyfnod o 12 mlynedd, dysgais sgiliau allweddol yn gyflym, gan ddychwelyd i addysg bellach a chael cymwysterau newydd.
Yn 2002, gwnes gais llwyddiannus am rôl yn rheoli peirianwaith a pheiriannau yn Ystad y DVLA. Roeddwn wrth fy modd ac, er mwyn cefnogi fy nysgu, dilynais gymwysterau rheoli prosiectau achrededig i gefnogi’r bylchau yn fy nysgu.
Roeddwn i’n colli heriau beunyddiol rheoli cyfleusterau, ac ym mis Ebrill 2023, ymunais â’r SYG fel Uwch-reolwr Cyfleusterau.
Mae’r rôl yn y SYG wedi cynnig popeth roeddwn wedi’i obeithio ac mae’r cyfleusterau yma heb eu hail, gyda diwylliant cwbl gynhwysol. Rwyf wedi canfod fy nghydbwysedd perffaith, gan ddelio â phrysurdeb rheoli ystadau o ddydd i ddydd ynghyd â defnyddio fy sgiliau rheoli prosiectau.
Mae’r tîm rheoli eiddo yn gefnogol, yn cymryd gwir ddiddordeb yn fy natblygiad ac rwy’n teimlo’n gartrefol iawn yn y SYG.
Mae’n drueni na wnes i ystyried y SYG pan oeddwn newydd raddio mewn Economeg flynyddoedd yn ôl.
Ydych chi’n hoffi’r hyn rydych chi’n ei weld?
Os ydych am i’ch cyfraniad wneud gwahaniaeth go iawn, dewch i ymuno â ni.