Ein proses gwneud cais
Canllaw cam wrth gam i’r hyn i’w ddisgwyl wrth wneud cais am rôl gyda’r SYG.
Os hoffech wneud cais am rôl yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rydym ni’n gweithio’n galed i’w wneud mor hawdd â phosibl. Yn enwedig os nad ydych erioed wedi gwneud cais am rôl yn y Gwasanaeth Sifil o’r blaen.
Dyma ein harweiniad i’r broses gwneud cais, o gwblhau’r ffurflen gais i dderbyn cynnig a pharatoi ar gyfer eich diwrnod cyntaf yn SYG.
-
Cwblhau eich ffurflen gais
Mae’r ceisiadau am rolau yn SYG ar wefan swyddi’r Gwasanaeth Sifil (‘Civil Service Jobs’).
Yn y ffurflen gais, byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth a fydd yn ein helpu i ystyried pa mor dda rydych chi’n bodloni proffil y rôl.
Gallai hyn gynnwys datganiad personol, atebion i gwestiynau technegol neu wybodaeth am eich hanes addysg a chyflogaeth.
Byddwn hefyd yn gofyn i chi roi enghreifftiau o’ch sgiliau a’ch profiad sy’n bodloni’r adran meini prawf hanfodol yn y disgrifiad swydd. -
Dewis y bobl y byddwn ni’n cyfweld â nhw
Pan fydd y dyddiad cau wedi mynd heibio ar wefan swyddi’r Gwasanaeth Sifil, byddwn yn dechrau penderfynu pwy rydym am gyfweld â nhw. Sifftio yw’r enw ar y broses hon.
Yn dibynnu ar y rôl, mae’n bosibl hefyd y byddwn yn defnyddio prawf neu fath arall o asesiad i’n helpu i ddewis. Os felly, byddwn bob amser yn crybwyll y prawf neu’r asesiad yn y disgrifiad swydd.
Bydd panel o gydweithwyr yn SYG yn edrych ar fersiwn o’ch ffurflen gais heb eich gwybodaeth bersonol.
Bydd aelodau’r panel yn cymharu’r wybodaeth yn eich ffurflen gais â’r meini prawf hanfodol yn y disgrifiad swydd ac yn penderfynu pwy rydym am gyfweld â nhw. -
Y cyfweliad
Bydd y cwestiynau yn y cyfweliad yn canolbwyntio ar y wybodaeth roeddem wedi’i chynnwys ym mhroffil y rôl. Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau am eich profiadau eich hun yn y gorffennol ac yn rhoi enghreifftiau o sefyllfaoedd i chi er mwyn gweld sut y byddech yn ymdopi â nhw.
Mae’n bosibl hefyd y bydd angen i chi baratoi a rhoi cyflwyniad byr fel rhan o’r cyfweliad. -
Cynnig rôl yn SYG i rywun
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn cysylltu â chi drwy eich cyfrif ‘Civil Service Jobs’ ac yn eich ffonio i drafod y rôl.
Bydd eich cynnig yn seiliedig ar y gofynion a nodir yn yr hysbyseb swydd.
Weithiau, pan fydd gennym fwy o bobl yr hoffem gynnig y rôl iddynt na’r swyddi sydd ar gael i’w llenwi, mae’n bosibl y byddwn yn eich rhoi ar restr wrth gefn. Mae hyn yn golygu, os bydd gennym rôl debyg yn y dyfodol, gallwn ei chynnig i chi heb i chi orfod gwneud cais a chael cyfweliad eto. -
Paratoi ar gyfer eich diwrnod cyntaf yn SYG
Ar ôl i chi dderbyn cynnig, bydd ein tîm cynefino yn eich tywys drwy’r broses. Gan weithio gyda chi, bydd y tîm yn casglu gwybodaeth sy’n eich galluogi i ddechrau cyn gynted â phosibl.
Weithiau gall hyn gymryd ychydig fisoedd, gan fod angen i ni drefnu gwiriadau diogelwch a chyfarpar. Mae’n bosibl hefyd y bydd angen i chi gwblhau cyfnod rhybudd gyda’ch cyflogwr presennol.
Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i bethau fynd rhagddynt, a byddwch yn gallu cysylltu â rhywun os bydd angen unrhyw help arnoch bob amser.
Nawr, rydych chi’n barod i ddechrau gyrfa gyffrous yn SYG sydd wir yn cyfrif.