Skip to main content

Fahad

Pennaeth arferion meddalwedd.

Cyn dechrau yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), bu Fahad yn gweithio yn y sector preifat am 20 mlynedd. Penderfynodd ymuno â’r Gwasanaeth Sifil oherwydd ei amrywiaeth, ei hyblygrwydd a’i ymrwymiad i fudd y cyhoedd.

Yn 2004, des i i’r Deyrnas Unedig o Bacistan i astudio deallusrwydd artiffisial ym Mhrifysgol Manceinion. Cwblheais fy noethuriaeth mewn cloddio data yno’n ddiweddarach hefyd.

Bûm yn gweithio yn y sector preifat am 20 mlynedd, ond roeddwn yn ymwybodol mai faint o arian y gallai’r cwmni ei ennill oedd y peth pwysicaf bob amser.

Bûm yn gweithio ym maes technoleg ariannol hefyd, gan gynnwys un o’r cwmnïau technoleg a oedd yn tyfu gyflymaf y tu allan i Lundain, cyn ymuno â SYG. Cefais fy nghynnwys yn rhestr BusinessCloud o’r 50 o drawsnewidwyr technolegol yng ngogledd-orllewin Lloegr yn 2022 hefyd.

Sylweddolais fy mod am weithio yn rhywle sy’n cael effaith ar y darlun mwy a helpu pobl ar raddfa fwy. Dyna oedd yn apelio fwyaf ataf am y sector cyhoeddus, yn enwedig y Gwasanaeth Sifil.

Mae llawer o amrywiaeth hefyd – nid dim ond y bobl, ond y mathau o rolau sydd ar gael hefyd.

Fi yw’r pennaeth arferion meddalwedd ar hyn o bryd. Rwyf wedi fy lleoli yn y swyddfa yng Nghasnewydd yn swyddogol, ond rydym newydd agor un ym Manceinion felly byddaf yn gweithio yno pan na fyddaf yn gweithio gartref.

Mae’n ddigon cyffredin i bobl feddwl bod y Gwasanaeth Sifil yn hen ffasiwn ac araf ond, yn SYG, mae llawer o dechnoleg ddiddorol a mwy o annibyniaeth hefyd.

Mae gan SYG weledigaeth uchelgeisiol ac mae hynny’n fy nghymell.

Oherwydd fy nghefndir helaeth ym maes data, roedd SYG yn ddewis addas naturiol i mi. Er mai’r disgrifiad swydd wnaeth fy helpu i symud i’r Gwasanaeth Sifil, diwylliant SYG rwy’n ei werthfawrogi fwyaf.

Mae gennyf dîm gwych, cydweithwyr hyfryd, a gallaf ddefnyddio’r oriau hyblyg mewn ffordd sy’n addas i fy nheulu. Mae gennyf bedwar o blant – mae’r hynaf yn y brifysgol a’r ieuengaf yn 7 oed, felly mae’n gartref prysur.

Yn ystod fy amser rhydd, roeddwn yn arfer mynd i gynadleddau a chyflwyno ynddynt neu fynd am dro ar fy meic modur. Rwyf wedi hongian fy helmed ers hynny ond hoffwn ailgydio ynddo ryw ddiwrnod a theithio o gwmpas Ewrop.

Ydych chi’n hoffi’r hyn rydych chi’n ei weld?

Os ydych am i’ch cyfraniad wneud gwahaniaeth go iawn, dewch i ymuno â ni.