Skip to main content

Diane

Cyfwelydd Maes.

Ymunodd Diane â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) oherwydd hyblygrwydd y sefydliad sy’n ei galluogi i weithio o gwmpas ymrwymiadau teuluol. Mae nawr yn gobeithio bod yn Gyfwelydd Maes yn y SYG am flynyddoedd i ddod.

Rwyf wedi bod yn Gyfwelydd Maes ers 2009, a chefais fy nenu at y rôl yn y lle cyntaf oherwydd yr hyblygrwydd y mae’r SYG yn ei gynnig. Mae hefyd yn golygu y gallaf weithio o gwmpas fy ymrwymiadau teuluol.

Pan ddechreuais i, roedd gennyf dri mab yn yr ysgol. Roedd yr hyblygrwydd yn golygu y gallwn fynd i’w diwrnodau mabolgampau a digwyddiadau yn yr ysgol wrth wneud fy ngwaith o hyd. Mae’r bechgyn wedi tyfu erbyn hyn a’r rôl wedi datblygu, ond mae’n cyd-fynd yn dda â fy mywyd o hyd. 

Rwy’n hoffi amrywiaeth y rôl a’r ffaith bod pob diwrnod yn wahanol. Rwy’n mwynhau gallu sgwrsio â phobl o bob cefndir a chael cipolwg ar eu bywydau. ​

Gan mai ni yw wyneb cyhoeddus y sefydliad, rwy’n credu bod gan Gyfwelwyr Maes rôl bwysig iawn yn y SYG. Gallwn roi sicrwydd i bobl a rhoi wyneb dynol i’r ystadegau rydym yn eu cyhoeddi.

Pan fyddaf yn curo ar ddrws, bydd pobl yn aml yn dweud wrthyf eu bod yn poeni nad oedd llythyr roeddent wedi’i gael yn ddilys. Ond, ar ôl siarad â mi, maent yn teimlo’n dawelach eu meddwl ac yn fodlon cymryd rhan.

Rwy’n teimlo’n falch pan fyddaf yn gweld ein hystadegau’n cael eu defnyddio i ddangos yr hyn sy’n digwydd yn y byd.

Mae’r swydd yn newid ac yn diweddaru’n gyson, ond rwy’n gobeithio bod yn rhan o’r sefydliad am flynyddoedd lawer i ddod.