Gweithrediadau arolwg a maes
Gweithrediadau arolwg
Mae ein cyfarwyddiaeth Arolygon Cymdeithasol yn gyfrifol am gasglu’r data ar gyfer yr arolygon cymdeithasol ac economaidd a gomisiynir gan adrannau’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill.
Gallech fod yn gweithio yn ein canolfan gyswllt, yn ein timau arolygon neu fel cyfwelydd maes. Beth bynnag fo’ch rôl, byddwch yn ddolen gyswllt bwysig rhwng y Llywodraeth a’r bobl. Mae rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i wneuthurwyr polisïau yn eu galluogi i gadw mewn cysylltiad ag amgylchiadau a safbwyntiau’r cyhoedd. Mae hyn yn golygu y gallant gynllunio ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol i ddiwallu anghenion y boblogaeth.
“Rwy’n hoffi amrywiaeth y rôl a’r ffaith bod pob diwrnod yn wahanol. Rwy’n mwynhau gallu sgwrsio â phobl o bob cefndir a chael cipolwg ar eu bywydau.”
Diane – Cyfwelydd Maes
Gweithrediadau maes
Fel Cyfwelydd Maes sy’n cynnal arolygon swyddogol, chi fydd ein llygaid a’n clustiau ledled y DU, gan helpu i hysbysu’r Llywodraeth am gyflwr y genedl.
Bydd eich rôl yn gyfuniad o ymweliadau maes i gyfeiriadau i annog aelwydydd i gwblhau ein harolygon a chynnal arolygon yn eu cartrefi.
Mae ein timau Llu Maes wedi’u lleoli’n lleol ar draws y wlad, yn gweithio’n rhan amser ac yn hyblyg trwy gydol yr wythnos. Felly, ble bynnag yr ydych yn byw, gallai fod cyfleoedd yn agos atoch chi.
Yn hoffi’r hyn rydych chi’n ei weld?
Os ydych am i’ch cyfraniad wneud gwahaniaeth go iawn, dewch i ymuno â ni.