Skip to main content

Gwella bywydau drwy ddata

Pan fyddwch yn ymuno â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), byddwch yn dechrau gyrfa sy’n cyfrif.

Mae’r gwaith rydym yn ei wneud a’r data rydym yn eu cyhoeddi yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Rydym yn gyfrifol am rannu data a dadansoddiadau am rai o’r materion pwysicaf sy’n wynebu’r DU.

Rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn

Mae’r gwaith rydym yn ei wneud yn wirioneddol bwysig. Gwyddom mai dim ond drwy gyflogi’r bobl gywir a chefnogi ein cydweithwyr y gallwn gyflawni’r gwaith pwysig hwn. Dyna pam ein bod wedi creu lle gwych i weithio ynddo lle bydd gennych bopeth sydd ei angen arnoch i fod y gorau y gallwch fod.

“Nid dim ond yr hyn y mae SYG am ei gael gennych chi sy’n bwysig. Bydd yn buddsoddi ynddoch chi gymaint ag y byddwch chi’n ei fuddsoddi ynddi hi, ac rwy’n meddwl bod hynny’n wych!”

Jack – Uwch-swyddog Ymchwil

Ein buddiannau

Eich llesiant

“Mae SYG yn cynnig cymorth a chefnogaeth i wneud yn siŵr bod fy amser yn y gwaith yn brofiad cadarnhaol.” Cath – Rheolwr Cynefino

Eich gwaith chi eich ffordd chi

“Mae gweithio hyblyg yn golygu cydbwysedd iach rhwng fy mywyd yn y gwaith a fy mywyd gartref.” Oliver – Prif Swyddog Ymchwil

Eich pensiwn

“Mae cynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil yn cynnig buddiannau ardderchog i fi a'm hanwyliaid.” Sonia – Pennaeth Dylunio Digidol a'r Academi Dechnoleg